Geraint Thomas, y seiclwr o Gaerdydd, a gafodd ei enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC neithiwr (nos Sul, Rhagfyr 16).

Mae eisoes wedi’i enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Chwaraeon Cymru eleni.

Mewn seremoni yn Birmingham, fe lwyddodd enillydd y Tour de France i faeddu’r gyrrwr Fformiwla Un, Lewis Hamilton, a ddaeth yn ail, a’r pêl-droediwr, Harry Kane, a oedd yn drydydd.

Dim ond pum seiclwr sydd wedi cael eu henwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn y gorffennol – pedwar o’r rheiny yn y degawd diwethaf – a Geraint Thomas hefyd yw’r pumed Cymro i dderbyn yr anrhydedd.

“Mae’r hyn y mae Geraint wedi’i gyflawni eleni yn arddangos beth rydyn ni’n ceisio ei wneud – defnyddio llwyddiant i ysbrydoli pobol i fynd ar eu beiciau,” meddai Julie Harrington o Seiclo Prydain.

“Fe hoffwn i estyn fy llongyfarchion i Geraint ar flwyddyn arbennig a diolch iddo am yr hyn mae wedi’i wneud i annog mwy o bobol i seiclo.”