Mae’r tollau ar Bontydd Hafren wedi cael eu diddymu heddiw (dydd Llun, 17 Rhagfyr) ond yn ôl cludwyr fe fydd yn cynyddu traffig a chostau i fusnesau.

Dywed Richard Burnett, Prif Weithredwr y Gymdeithas Cludo Nwyddau (RHA), fod oedi ar y bont oherwydd traffig yn mynd i golli arian i rai busnesau.

Er ei fod o blaid cael gwared ar y tollau, “does dim dewis” gan gludwyr nwyddau ond trosglwyddo unrhyw gynnydd mewn costau trafnidiaeth i gwsmeriaid, meddai.

“Bydd tagfeydd traffig o ganlyniad i gynnydd yn nifer y cerbydau yn gwrthbwyso’r manteision o gael croesfan ddidollau,” ychwanega.

“Carreg filltir fawr”

Roedd croesi Pontydd Hafren rhwng Lloegr a Chymru yn costio £16.70 ar gyfer loriau a £5.60 ar gyfer ceir.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, bydd diddymu’r tollau yn cyfrannu mwy na £100m y flwyddyn i’r economi yng Nghymru, a hwb ariannol gwerth £1bn yn ystod y degawd nesaf.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, oedd yr olaf i dalu wrth groesi’r bont cyn gwaredu’r tollbyrth ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 16).

Dywedodd fod diddymu’r tollau yn “garreg filltir fawr i economi de Cymru a de-orllewin Lloegr.”

Mae teithwyr wedi bod yn talu i groesi afon Hafren yn ne-ddwyrain Cymru ers i’r bont gyntaf gael ei hadeiladu yn 1966.

Yr un fu’r drefn pan gafodd yr ail bont, sydd wedi’i henwi’n Bont Tywysog Cymru yn ddiweddar, yn 1996.