Fydd dim rhaid i deithwyr dalu i groesi pontydd Hafren i mewn i Gymru ar ôl heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 17).

Mae’r ffi ar y ddwy bont – yr M4 a’r M48 – yn cael ei diddymu dros nos, ac mae disgwyl i’r cerbyd cyntaf groesi’n rhad ac am ddim yn oriau mân y bore.

Fe allai diddymu’r ffi arbed hyd at £1,400 y flwyddyn i deithwyr, ar ôl i’r pontydd ddychwelyd i berchnogaeth y cyhoedd y llynedd.

Cafodd y bont Hafren wreiddiol ei hagor yn 1966, ac fe ddaeth yr ail bont yn 1992 ar gost o £332m.

Y ffi i’w croesi bellach yw £5.60 i geir.

Paratoi ar gyfer pontydd di-dâl

Fe fydd ail bont Hafren ynghau o 7 o’r gloch heno (nos Sul, Rhagfyr 16), cyn ailagor unwaith eto fore Llun.

Bydd traffig yn symud ar hyd Bont Hafren yr M48 dros nos, ond bydd honno ar gau i mewn i Gymru tan ddydd Mercher er mwyn dadfeilio’r tollbyrth.

Bydd y gwaith o ailgyflwyno tair lôn ar y ddwy bont yn dechrau yn y flwyddyn newydd.