Bethan Jenkins
Mae AC wedi datgan ‘siom’ heddiw na chafodd ddadl ar ddarlledu yng Nghymru ar lawr y senedd.

Dywedodd Bethan Jenkins, AC wrth Golwg360: “Roedd Jane Hutt wedi dweud fod cyfle i mi ofyn cwestiwn i’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros ddarlledu. Doeddwn i ddim yn teimlo bod hynny yn ddigon o reswm i beidio cydnabod bod angen cael dadl lawn ar lawr y senedd ar ddarlledu,” meddai.

“Mae’n fater mor bwysig yn wyneb y toriadau i S4C, yn wyneb y cytundeb sydd o bosibl am ddigwydd rhwng S4C a’r BBC a dyfodol y cyfryngau yn gyffredinol yng Nghymru o ran papurau lleol ayyb,” meddai.  “Roeddwn i’n siomedig o ran y diffyg ymateb gan y Gweinidog penodol hynny i gynnal y drafodaeth hynny”.

Plaid Cymru

“Dw i’n credu bydd Plaid Cymru yn gwthio am ddadl ar ddarlledu ar y dydd ‘da ni’n rhoi dadleuon gerbron y Cynulliad yn hytrach na gorfod aros i’r Llywodraeth gynnal dadl ar ddarlledu,” meddai’r AC.

“Dyna pryd fyddwn i’n gallu gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn gweithredu yn y maes yma. Dydyn nhw ddim yn bod yn proactive ynglyn â’r mater pwysig yma,” meddai.

“Rydan ni’n gweld mudiadau’n protestio ynglŷn â dyfodol S4C. Ond eto i gyd, mae’r Llywodraeth yn eithaf tawel ynglŷn â hynny,” meddai.

Eisoes, fe ddywedodd bod “grŵp gorchwyl a gorffen” am gael ei sefydlu ar y Pwyllgor y mae’n rhan ohono yn y Cynulliad.

“Mae pobl wedi bod yn gwneud gwaith dros yr haf ar hynny – felly bydd yn rhywle allwn ni drafod darlledu. Ond, eto i gyd, mae’n bwysig bod ni ddim ond yn trafod e yn y pwyllgor, ond bod ni’n trafod e yn y senedd lle mae pobl yn disgwyl bod trafodaethau o’r fath yn digwydd,” meddai.

Dadl Cyllido S4C

Ymhen pedair blynedd, y BBC fydd yn dweud faint o arian fydd gan S4C i’w wario ar raglenni. Dyna sydd lawr mewn cytundeb rhwng y BBC a Llywodraeth Prydain, sydd wedi ei gyhoeddi gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Eisoes, mae ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud wrth Golwg360 “nad yw’r newid yn y modd y caiff S4C ei hariannu yn golygu bod y BBC yn gallu nac yn bwriadu traflyncu S4C.”

“Mae BBC yn hollol ymrwymedig i ddarpariaeth Gymraeg ac i S4C sy’n olygyddol annibynnol,” meddai llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth y BBC wrth Golwg360 yn gynharach yn y mis.

Ond, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei bod yn dod yn fwyfwy amlwg mai “cymryd drosodd”  fydd y BBC – heb fod sicrwydd am “fformiwla ariannu deg” i’r sianel.

Maen nhw’n pryderu y bydd S4C yn dod yn “adran” o’r gorfforaeth. Maen nhw hefyd yn galw ar S4C i “dynnu allan o drafodaethau gyda’r BBC a’r DCMS.”