Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd tywydd gwahanol ar gyfer Cymru dros y penwythnos, sef Storm Deirdre.

Daeth rhybudd melyn am law a gwyntoedd cryfion ar draws y rhan fwyaf o dde Cymru am 24 awr i rym ers 9 o’r gloch y bore heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 15).

Bu rhybudd melyn arall am eira a rhew ar hyd y gogledd a’r canolbarth mewn grym ers 6 o’r gloch y bore, a bydd yn para hyd at 6 o’r gloch heno.

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio y gallen nhw fynd i drafferthion a bod “posibilrwydd” i rai pobol golli cyflenwadau pŵer.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai’r tywydd garw effeithio ar nifer o ddigwyddiadau Nadoligaidd sydd wedi’u trefnu dros y penwythnos.

Mae rhybuddion hefyd y gallai rhai tai ddioddef llifogydd oherwydd cawodydd o law trwm a ddisgwylir.