Mae Heddlu’r De yn apelio ar fam a merch sydd wedi bod ar goll, i gysylltu gyda nhw ar unwaith.

Fe welwyd Sian Duili, 47, ac Aisha Duili, 8, yn y Barri y tro diwetha’ ddydd Mawrth (Rhagfyr 11).

Ond maen nhw wedi cael eu gweld ddoe ar deledu cylch cyfyng mewn siop Costcutter yn Gretna yn yr Alban, am 1.15yp.

Yn y lluniau CCTV, mae Sian Duili yn gwisgo siwmper dywyll ac mae ei merch, Aisha, yn gwisgo siwmper goch gyda’r gair ‘Whatever’ mewn gwyn arni.

Mae gan Sian Duili gysylltiadau yn ardaloedd Newcastle a Swindon.

Mae ganddi hefyd fynediad at gar Ka Sportage gyda’r plât CE67 RPZ, ond gall ei bod yn defnyddio cerbyd arall.