Bu  Prif Weinidog Cymru yn amlinellu ei raglen lywodraethu ‘uchelgeisiol’ heddiw.

Ymysg y blaenoriaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru roedd rhoi mwy o gyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc, sicrhau bod pawb yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf a chyflwyno archwiliadau iechyd i bobl dros 50 oed.

Wrth annerch Aelodau’r Cynulliad yn y Senedd, amlinellodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei Raglen Lywodraethu ar gyfer tymor y Cynulliad hwn.

Mae’n pennu blaenoriaethau Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf.

Mesur cynnydd

Mae’r Rhaglen yn nodi’r camau y bydd y Gweinidogion yn eu cymryd, sut caiff cynnydd ei fesur a pha ganlyniadau y mae’r Llywodraeth am eu gweld i bobl Cymru. Mae’n rhaglen i Gymru gyfan sy’n amlinellu pa sefydliadau fydd yn cyfrannu at gyflawni’r rhaglen gyda Llywodraeth Cymru.

Caiff y Rhaglen Lywodraethu ei diweddaru’n flynyddol a chyhoeddir adroddiad cynnydd bob blwyddyn.

Mae’r ymrwymiadau allweddol yn cynnwys: sefydlu cronfa swyddi newydd i Gymru;
gwella’r mynediad at wasanaethau meddyg teulu; ariannu 500 o swyddi cymorth cymunedol newydd; cynyddu gwariant rheng flaen mewn ysgolion;  dyblu nifer y plant sy’n elwa ar y rhaglen ‘Dechrau’n Deg’; cyflwyno Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd statudol, a ategir gan brofion darllen a mathemateg cenedlaethol; dechrau rhyddhau mwy o dir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadwy; llunio cynllun gweithredu gwrth-dlodi erbyn y flwyddyn nesaf a fydd yn dod â’r holl bolisïau datganoledig perthnasol ynghyd; cynyddu nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru; creu parthau cadwraeth morol newydd; pwyso am adolygiad annibynnol o S4C; cyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg pum mlynedd.

‘Agenda uchelgeisiol’

Dywedodd y Prif Weinidog:  “Mae’n Rhaglen Lywodraethu yn agenda uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Mae’n troi’r maniffesto y cawsom ein hethol arno yn gamau gweithredu – ac mae fy llywodraeth yn benderfynol o’i chyflawni’n llawn.

“Byddwn yn canolbwyntio ar weithio er budd pobl, ar gydweithio i greu gwlad decach a mwy ffyniannus, ac ar greu cymdeithas lle mae cyfle i bawb wneud cyfraniad.

“Nid creu ‘gwell heddiw’ yw unig ddiben ein penderfyniadau, ond hefyd ceisio sicrhau ‘gwell yfory’ i wella bywydau’n plant, a phlant ein plant.

“Byddwn yn creu mwy o brentisiaethau er mwyn rhoi cychwyn gwell i bobl ifanc ym myd gwaith; byddwn yn cynnig archwiliadau iechyd newydd i bobl dros 50 oed ac yn canolbwyntio ar greu gymdeithas iachach; a byddwn yn cryfhau cymunedau ledled Cymru, gan ariannu 500 yn fwy o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.

‘Gweithio gyda’n gilydd’

“Bydd sylfaen Gymreig cadarn ac unigryw o degwch a chynaliadwyedd i’r gwelliannau hyn. Mae’r ymrwymiad hwn yn mynd y tu hwnt i’r cysyniad cul o ‘fod yn wyrdd’, ac yn gwireddu’n gweledigaeth ar gyfer lles economaidd ac amgylcheddol ein cymunedau.

“Byddwn yn adrodd am ein cynnydd bob blwyddyn, fel bod pobl yn gallu gweld yr hyn rydym wedi’i gyflawni a sut mae’r newidiadau hyn wedi gwella’u bywydau. Mae angen egni ac ymroddiad y wlad gyfan arnom – y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r gymuned fusnes. Os byddwn ni gyd yn uno yn yr ymdrech, fe awn ni ymhellach, yn gynt.

“Dyma yw hanfod datganoli – gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol ffyniannus ac iach i Gymru.”