Daeth cadarnhad fod Mark Drakeford wedi’i ethol yn Brif Weinidog Cymru, gan ennill 30 o bleidleisiau yn y Senedd.

Roedd 12 o bleidleisiau i Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, a naw o bleidleisiau i Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Penderfynodd UKIP atal eu pleidleisiau.

Ymhlith y rhai oedd wedi cefnogi Mark Drakeford mae Kirsty Williams a Dafydd Elis-Thomas, a’r ddau yn cael parhau yn rhan o Lywodraeth Cymru.

Mae’r cyn-Weinidog Cyllid yn olynu Carwyn Jones, a gyhoeddodd ei ymddiswyddiad ddoe (dydd Mawrth).

Mae disgwyl i’w benodiad gael sêl bendith Brenhines Loegr o fewn 24 awr, cyn y gall dyngu llw.

Yn dilyn ei etholiad, dywedodd ei bod yn “fraint” cael arwain y Blaid Lafur yng Nghymru ac i fod yn Brif Weinidog.