“Nid ras arweinyddol hunanol” yw’r ateb i “embaras Brexit”, yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae hi wedi ymateb i’r newyddion bod Theresa May yn wynebu her i’w harweinyddiaeth o’r Blaid Geidwadol ac felly i’w swydd yn Brif Weinidog Prydain.

Daw’r her ar ôl iddi benderfynu gohirio’r bleidlais ar ei chytundeb Brexit gan ofni y byddai hi’n ei cholli.

Dydy’r fath her “ddim yn gwneud unrhyw beth i ddatrys argyfwng Brexit”, meddai, gan ychwanegu mai Pleidlais y Bobol yn unig all “ddod â’r anhrefn i ben”.

‘Theresa May yn unig sydd ar fai’

“Mae Brexit yn embaras cenedlaethol, un sydd, yn anhygoel, yn dod yn fwy di-drefn ac yn fwy o embaras bob dydd,” meddai Jane Dodds.

“O ddod mor fuan ar ôl penderfyniad Theresa May i ohirio’r bleidlais ar ei chytundeb Brexit, mae’n anodd gweld sut allai’r broses fynd yn fwy o ffars.

“Theresa May yn unig sydd ar fai am y ffaith ei bod hi’n wynebu etholiad arweinyddol.

“Roedd hi’n styfnig iawn wedi gwrthod newid cyfeiriad pan ddaeth hi’n amlwg na fyddai’r Senedd fyth yn cefnogi ei chytundeb.

“Fodd bynnag, nid ras arweinyddol Dorïaidd hunanol sy’n tynnu oddi ar y mater mwyaf y mae gwleidyddiaeth Prydain wedi’i wynebu ers cenedlaethau mo’r ateb.

“Dydi etholiad arweinyddiaeth Ceidwadol ddim yn datrys unrhyw beth.

“Yr un yw rhifedd y Senedd a bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig union yr un cytundeb i unrhyw arweinydd Ceidwadol newydd.

“Yr unig ateb i’r argyfwng Brexit hwn o hyd yw mynd yn ôl at y bobol. Rhaid i ni roi’r gair olaf i bobol, a’r cyfle i ddewis ymadael yn gynnar â Brexit.”