Mae Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Elin Jones AC wedi galw ar y Gweinidog Iechyd i roi blaenoriaeth i sefydlu Cynllun Canser Cenedlaethol.

Roedd Elin Jones yn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd  heddiw gan  Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU). Mae’r adroddiad yn dangos fod nifer yr achosion o ganser yng Nghymru wedi parhau i gynyddu rhwng 1995 -2009, ond hefyd bod na gynnydd yn nifer y rhai sy’n goroesi canser.

Dywedodd Elin Jones bod Plaid Cymru wedi galw am gynllun canser cenedlaethol er mwyn trin y person yn ogystal â’r clefyd, sydd hefyd yn edrych ar les cleifion canser a’r rhai sydd wedi goroesi’r afiechyd.

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Elin Jones: “Mae Plaid Cymru am weld y Gweinidog Iechyd yn rhoi blaenoriaeth i sefydlu Cynllun Canser Cenedlaethol o ganlyniad i’r adroddiad yma.

“Fe fydd cynydd yn nifer y bobl sy’n cael canser yn arwain at bwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) a’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n hanfodol eu bod nhw’n gallu delio â’r pwysau a darparu’r  gofal a’r driniaeth angenrheidiol. Mae’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd gymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau canser yng Nghymru yn gallu ymateb i’r her mae nhw’n ei wynebu.

“Mae’n newyddion da bod mwy o bobl yn goroesi canser.   Fodd bynnag, mae’n hanfodol peidio ag anghofio am gleifion canser unwaith i’w triniaeth ddarfod gan y gall effeithiau’r clefyd bara am amser, yn gorfforol a meddyliol. Mae Plaid Cymru eisiau gweld strategaeth canser sydd yn ystyried lles cleifion a goroeswyr canser trwy gydol eu hoes hefyd.”

Mae’r adroddiad yn dangos bod nifer yr achosion a gafodd eu darganfod yn ystod y cyfnod o 15 mlynedd rhwng 1995-2009 yn dangos patrwm o gynnydd ar gyfer dynion a merched – 23% i ddynion ac 20% i ferched.

Ond o ystyried natur heneiddio poblogaeth Cymru, mae’r cynnydd yn 2.5% i ddynion a 10.0% i ferched, sydd llawer yn is na’r cynnydd cyffredinol yn nifer yr achosion newydd.

Mae gan ddyn, ar gyfartaledd, un siawns mewn saith o gael canser cyn cyrraedd 65 oed – gyda’r siawns yn cynyddu i un ymhob tri cyn 75 oed. Ond mae gan ddynes un siawns mewn chwech o gael yr afiechyd cyn  cyrraedd 65, a thri ymhob 10 o gael diagnosis cyn ei bod yn 75 oed.

Y math mwya’ cyffredin o ganser ymhlith dynion dros y cyfnod rhwng 1995-2009 oedd canser y prostad.

Canser y fron oedd y mwya’ cyffredin ymhlith merched, sef tri o bob 10 achos yng Nghymru.

Mae tua 120,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chanser heddiw. Yn ôl elusen Macmillan, mae disgwyl i’r ffigwr yna bron a dyblu erbyn 2030.