Mae disgwyl i Mark Drakeford gael ei gadarnhau’n Brif Weinidog Cymru heddiw, ddiwrnod ar ôl i Carwyn Jones gyflwyno’i ymddiswyddiad ar ôl naw mlynedd yn y swydd.

Fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal yn y Senedd yn ystod y prynhawn.

Mae Plaid Cymru’n bwriadu enwebu eu harweinydd Adam Price i herio arweinydd newydd y Blaid Lafur, tra bod disgwyl hefyd i’r Ceidwadwyr gyflwyno enw eu harweinydd nhw, Paul Davies.

Mae gan Lafur 29 sedd yn unig allan o 60, ac fe fydd angen mwyafrif ar Mark Drakeford er mwyn cadarnhau ei benodiad.

Ond mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, gefnogi Mark Drakeford.