Dr Owain Llwyd
Mae cyfansoddwr sydd wedi cael ei waith wedi ei ddefnyddio ar Top Gear a llu o raglenni poblogaidd a ffilmiau, ymysg naw darlithydd sydd wedi’u penodi ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Dr Owain Llwyd yn arbenigo ar gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm a bydd yn rhannu ei arbenigedd mewn  modiwl a fydd ar gael  fel dewis i fyfyrwyr cerddoriaeth.

Yn dilyn cyhoeddi casgliad o gryno ddisgiau o gerddoriaeth llyfrgell dan adain cwmni Boosey and Hawkes, mae ei weithiau’n cael eu clywed ar raglenni fel The X Factor (ym Mhrydain ac yn Ewrop) a Top Gear ac ar sawl hysbyseb deledu.

Cyn gweithio fel cyfansoddwr yn y diwydiant ffilmiau yn Llundain roedd Owain Llwyd yn ddeiliad ysgoloriaeth ymchwil o dan nawdd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, sydd bellach wedi ei hymgorffori o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y naw darlithydd yn darparu modiwlau newydd a hynny yn Gymraeg.

Mae wyth darlithydd wedi’u penodi eisoes, gydag un penodiad eto i’w lenwi ym maes Gwaith Cymdeithasol.

Mae’r swyddi darlithio wedi’u cyllido o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer naw swydd darlithio newydd a chwe ysgoloriaeth doethuriaeth cyfrwng Cymraeg. Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o bum mlynedd.

‘Mae’r penodiadau hyn yn arwydd pendant o’n hymrwymiad ni fel sefydliad i ddatblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae cefnogaeth arbennig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr,’ meddai John Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor.

Yn ymuno ag Owain mae Dr Paula Roberts a fydd yn darlithio mewn Gwyddor yr Amgylchedd, Dr Manon Jones, darlithydd mewn Seicoleg, Dr Ruth Williams, darlithydd mewn Nyrsio, Dr Manon Mathias, darlithydd mewn Ffrangeg, Dr Craig Owen Jones, darlithydd mewn cerddoriaeth boblogaidd, Enlli Haf Huws a fydd yn darlithio mewn Cemeg a Dr Myfanwy Davies a fydd yn darlithio mewn Polisi Cymdeithasol.