Fe fydd degau o swyddi newydd yn cael eu creu yn Llanelli, ar ôl i’r cwmni moduro rhyngwladol, Calsonic Kansei, dderbyn buddsoddiad gwerth £4.4m gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn cyflogi gweithlu o dros 300 yn yr ardal ar hyn o bryd, wrth gynhyrchu systemau oeri a chydrannau aerdymheru ar gyfer cwmnïau moduro mawr ledled y byd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu a chynhyrchu technoleg flaenllaw ar gyfer Cerbydau Electronig yn y gweithfeydd yn Nhre’r Sosban.

Bydd y gwaith hwnnw’n sicrhau 85 o swyddi ychwanegol am o leiaf pum mlynedd, medden nhw wedyn.

Croeso brwd

Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan Calsonic Kansei, sy’n dweud y bydd y cyllid hwn yn “helpu inni sicrhau y sgiliau, y cynnyrch a’r buddsoddiad angenrheidiol ar ein safle yn Llanelli…”

“Drwy fuddsoddi yn datblygu cynnyrch a chapasiti gweithgynhyrchu ar y safle, gallwn sicrhau ein bod yn bodloni anghenion cynnyrch ein prif gwsmeriaid yn y dyfodol,” meddai Keiichiro Miyanaga, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni yn Ewrop.