Mae’r Ysgrifennydd Cyllid ac arweinydd newydd y Blaid Lafur, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 10) bydd Cymru yn derbyn £3.7 gan yr Undeb Ewropeaidd i fynd at dechnoleg flaengar.

Bydd y prosiect gwerth £5.8 miliwn sy’n cael ei gynnal gan Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg yn dod ag arbenigedd technolegol o bob cwr o Gymru.

Y bwriad yw sefydlu prosiectau ymchwil cydweithredol i annog diwydiannau i fanteisio ar dechnoleg ffotoneg wrth ddefnyddio laserau, synwyryddion a ffibrau optig.

Gyda Phrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, yn arwain – bydd y prosiect tair blynedd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth a phrifysgolion De Cymru, Bangor ac Aberystwyth.

Bydd y prifysgolion hyn yn gweithio gyda chwmnïau ar draws y Gorllewin a’r Gogledd ac yng Nghymoedd y De mewn meysydd fel gweithgynhyrchu, gofal iechyd, telathrebu, ynni ac amaethyddiaeth.

Mae ffotoneg yn defnyddio golau i gynhyrchu ynni, ac i ganfod neu drosglwyddo gwybodaeth a ffurfiau eraill o ynni pelydrol.

“Sbarduno arloesedd”

Yn ôl yr athro Mark Drakeford, mae’n “hanfodol” i ddiwydiannau Cymru gael mynediad at wybodaeth sydd ar gael yn ein prifysgolion er mwyn “sbarduno arloesedd” a sicrhau lle i Gymru ar lwyfan byd-eang.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos pwysigrwydd sicrhau cyllid cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi swyddi a thwf yng Nghymru ar ôl i ni ymadael a’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Mark Drakeford.

Dywedodd Caroline Gray, cyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr Wrecsam:

“Bydd y ganolfan yn dod a bob maes o arbenigedd academaidd ar draws technoleg ffotoneg at ei gilydd, gan helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o brosesau a chynnyrch i hybu twf busnesau ac effeithlonrwydd ar gyfer economi Cymru a chenedlaethau’r dyfodol.”