Mae Carwyn Jones wedi datgelu iddo ystyried ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru yn ystod y dyddiau “anodd” yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant y llynedd.

Bu farw’r cyn-Aelod Cynulliad ym mis Tachwedd 2017, ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru.

Roedd yn wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn yn rhywiol tuag at ferched – cyhuddiadau yr oedd yn eu gwadu.

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei ohirio fis diwethaf, ac mae disgwyl iddo barhau yn y flwyddyn newydd.

Dyma’r tro cyntaf i Carwyn Jones ddatgan iddo ystyried ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn dilyn y digwyddiad.

“Anodd”

Mewn rhaglen ddogfen ar BBC One Wales, mae disgwyl i Carwyn Jones egluro’r sefyllfa yr oedd ynddi adeg diswyddiad a marwolaeth Carl Sargeant.

“Roedd e mor anodd, fe wnes i feddwl mai’r unig ffordd o roi stop ar bethau yw os ydw i’n mynd,” meddai.

“Ond os bydda i wedi ymddiswyddo rhai dyddiau yn ddiweddarach, yna fe fyddai wedi ymddangos fel fy mod i’n cymryd y bai. Doeddwn i ddim am wneud hynny…”

“Yr her fwyaf”

Bydd y rhaglen ddogfen hefyd yn dilyn Carwyn Jones yn ystod misoedd olaf ei gyfnod yn Brif Weinidog Cymru, sydd wedi cynnwys cyfarfodydd gyda Phrif Weinidog Prydain, Theresa May, a Phrif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier.

Bydd modd cael golwg ar fywyd teuluol Carwyn Jones hefyd, ynghyd â chlywed sut mae bod yn Brif Weinidog wedi effeithio ar ei deulu.

“Yr her fwyaf iddo oedd Carl,” meddai ei wraig, Lisa Jones. “Dw i wedi gweld beth mae’r mater wedi’i wneud i Carwyn ac mae’n ddychrynllyd.

“Mae wedi’i roi mewn sefyllfa anodd, anodd iawn. Dydw i byth wedi’i weld e mor isel â hynny.”

Bydd Being First Minister yn cael ei darlledu ar BBC One Wales heno (dydd Llun, Rhagfyr 10) am 9yh.