Fe ddylai’r cyfrifoldeb am y Gymraeg fod yn nwylo Prif Weinidog newydd Cymru, yn ôl ymgyrchwyr iaith.

Yr wythnos ddiwethaf (Rhagfyr 6), fe ddaeth y cyhoeddiad mai Mark Drakeford fydd yn olynu Carwyn Jones yn arweinydd Llafur Cymru, ac mae disgwyl iddo ddod yn Brif Weinidog Cymru hefyd.

Yn sgil hynny, mae Cymdeithas yr Iaith yn awgrymu y dylai Mark Drakeford sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn gyfrifoldeb iddo ef ei hun pan fydd yn cyflwyno newidiadau i Gabinet Llywodraeth Cymru.

“Uwchraddio”                                       

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi gweinidogion i fod yn gyfrifol am y Gymraeg ers 2016, ond dydyn nhw ddim wedi bod yn ysgrifenyddion ac, felly, ddim yn aelodau o’r Cabinet.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dylai’r Prif Weinidog fod yn gyfrifol am y Gymraeg fel “mater trawsadrannol” gyda phob ysgrifennydd y Cabinet yn cyfrannu ato.

Maen nhw hefyd yn galw am “uwchraddio’r uned” yn y gwasanaeth sifil sy’n gyfrifol am yr iaith.

“Arweiniad o’r brig”

“Dydy’r Gymraeg ddim yn cael y statws na’r ystyriaeth mae’n ei haeddu gan y Llywodraeth ar hyn o bryd,” meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Rydyn ni o’r farn mai dim ond gydag arweiniad o’r brig y gwelwn ni’r newid sydd ei angen.

“Rydyn ni’n hyderus y gwelwn ni newid agwedd yn y Llywodraeth o dan arweiniad Mark Drakeford,” meddai wedyn.

“Roedden ni’n falch bod ei faniffesto yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ac nad oedd sôn am y cynlluniau annoeth presennol i wanhau’r Ddeddf Iaith.”