Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am fachgen 17 oed o Wrecsam, sydd wedi bod ar goll ers dydd Sadwrn (Rhagfyr 8).
Dywed Heddlu Gogledd Cymru y gallai Liam Monk fod yn ardal Wrecsam o hyd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod W174512.