Mae ystadegau o brofion cyffuriau ar yrwyr yn ystod yr haf eleni yn dangos bod dros hanner wedi methu, gyda 37 gyrrwr y dydd yn cael eu dal o dan ddylanwad sylweddau sydd wedi’u gwahardd.

Mae hynny’n cyfateb i 57% o’r 1,962 o bobol gafodd y prawf ar ochr y ffordd ar draws Cymru a Lloegr.

Yn ôl ffigurau gan 38 o heddluoedd rhwng Mehefin 14 a Gorffennaf 15 eleni, roedd gwahaniaeth mawr rhwng nifer y bobol gafodd eu profi am alcohol a chyffuriau eraill.

Yn y cyfnod hwnnw roedd 36,675 o brofion anadl am alcohol gyda 3,667 – tua un ym mhob 10 gyrrwr – unai yn bositif, wedi gwrthod neu wedi methu gan y gyrrwr.

Llynedd cafodd 1,084 o’r 2,022 (53%) brawf positif am yrru o dan ddylanwad cyffuriau, ac yn 2016, roedd 1,028 o 2,588 (39.7%) wedi methu’r prawf, yn ôl ffigurau gan Gyngor Penaethiaid Cenedlaethol yr Heddlu (NPCC).

Mae swyddogion yn defnyddio ‘drugalysers’ i brofi am gyffuriau cocên a chanabis wrth brofi poer o geg gyrwyr – tra bod profion gwaed yn cael eu defnyddio i weld a yw ecstasi a heroin wedi cael eu cymryd.

Maen nhw’n cael eu defnyddio i dargedu gyrwyr sydd i weld yn gyrru’n afreolus neu sydd wedi bod mewn damwain.