Mae carcharorion mewn carchar preifat yn Ne Cymru wedi gwneud cwyn swyddogol i awdurdodau’r carchar am eu bod nhw eisiau rhagor o sianeli teledu chwaraeon.

Ar hyn o bryd mae carcharorion yng ngharchar Y Parc, ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael gwylio Sky Sports 1 fel gwobr am “ymddygiad da”.

Ond dydy’r carcharorion ddim yn hapus, yn ôl yr adroddiadau, gyda rhai yn anfodlon nad ydyn nhw’n cael gwylio Sky Sports 2 a 3 oedd yn golygu eu bod nhw wedi colli’r gem rhwng Brighton a Lerpwl yng Nghwpan Carling ddydd Mercher diwethaf.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol David Davies, mae cwyn y carcharorion yn hurt, gan ychwanegu nad yw nifer o bobl yn gallu fforddio’r sianeli eraill.

Dywedodd Mr Davies: “Rydw i’n synnu ein bod ni talu am garcharorion i wylio Sky TV. Beth nesa? A fydd carcharorion yn cael bocs yn Stadiwm y Mileniwm i wylio gemau rygbi?

“Ni ddylai pobl gael eu hanfon i garchar i wylio sianeli teledu lloeren drud. Fe ddylan nhw gael eu haddysgu a dysgu sgiliau newydd er mwyn  eu hailgymhwyso pan mae nhw’n gadael y carchar.”

Mae Sky yn derbyn £100 y mis gan sefydliadau fel carchardai am becyn Sky Sports 1 – gyda dewis o sianeli eraill yn costio £78 yn ychwanegol bob mis.