Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw am gynnal uwchgynhadledd pe bai cynllun Brexit Theresa May yn cael ei wrthod gan y Senedd ddydd Mawrth.

Mae’n dweud ei fod yn disgwyl i’r cynllun gael ei wrthod, ac y byddai angen i arweinwyr y gwledydd sydd wedi’u datganoli ystyried eu hymateb pe bai hynny’n digwydd.

Y disgwyl hefyd yw y bydd cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder hefyd yn cael ei wrthod.

‘Trychinebus’

Mae Adam Price yn galw am ymestyn cyfnod Erthygl 50 a chynnal Pleidlais y Bobol – neu ail refferendwm.

“Nid yw cytundeb Brexit trychinebus y Prif Weinidog hyd yn oed yn mynd i lwyddo heibio’r cam cyntaf,” meddai.

“Mae’n debyg y bydd San Steffan yn ei wrthod ddydd Mawrth, fel y gwnaeth seneddau Cymru a’r Alban yn gynharach yr wythnos hon.

“Rhaid i ni yn awr gyfeirio ein sylw at yr hyn fydd yn digwydd nesaf.

“Mae agwedd gibddall Llywodraeth San Steffan trwy gydol proses Brexit wedi anwybyddu pryderon ein cenedl a llawer o bobol ledled y Deyrnas Gyfunol.”

‘Rhaniadau’

Yn ôl Adam Price, “mae swyddi cyflogau a chyfleoedd cenedlaethau’r dyfodol yn wynebu peryglon na welsom eu bath mewn gwleidyddiaeth yng nghyfnod heddwch, ac mae Llywodraeth San Steffan yn parhau â pholisi sy’n cael ei gefnogi gan lai a llai o bobol”.

“Pan fydd cytundeb Brexit y Prif Weinidog yn chwalu ddydd Mawrth, bydd angen i ni ddod o hyd i lwybrau newydd allan o’r argyfwng hwn. Heb fwyafrif i gytundeb y Prif Weinidog a phleidlais o ddiffyg hyder yn anhebyg o gael y gefnogaeth sydd ei angen am newid Llywodraeth San Steffan, mae angen i ni ymchwilio i’r holl ddewisiadau sydd ar y bwrdd.

“Mae angen Uwch-Gynhadledd o holl arweinwyr y pleidiau a phenaethiaid y llywodraethau datganoledig i archwilio’r camau nesaf hynny. Byddwn yn parhau i anghytuno ynghylch canlyniadau, ond fel y dywedodd y Prif Weinidog ei hun, mae ‘gwleidyddiaeth yn fater o wrando ar bobl o bob ochr’.

“Pleidlais y Bobl yw’r ffordd amlwg i dorri’r cyfwng hwn ac am hynny y bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso. Dyw hi ond yn iawn fod y bobl yn cael y llais terfynol am Brexit, nawr eu bod yn gwybod sut beth ydyw mewn gwirionedd.”