Mae aelodau Undeb BECTU sy’n gweithio i’r BBC yng Nghaerdydd ac ym Mangor yn bwriadu mynd ar streic 24 awr yr wythnos hon, mewn protest yn erbyn diswyddiadau gorfodol.

Bydd y streic yn dechrau am 3am ar fore Gwener, 30 Medi, ac yn para am 24 awr, gan orffen yn yr oriau mân fore Sadwrn, 1 Hydref.

Mae’r gwrthdaro rhwng BECTU a’r BBC wedi codi yn sgil cynlluniau i ddiswyddo pedwar cynhyrchydd. Mae BECTU o’r farn y gellid dod o hyd i waith mewn meysydd eraill ar gyfer y cynhyrchwyr, a fyddai’n osgoi eu gwneud  yn ddiwaith.

Yr ail streic

Dyma’r ail dro i BECTU fygwth streic ar y mater yma, wedi iddyn nhw ohirio streic ym mis Awst ar yr un mater, tra bod apêl yn erbyn y diswyddiadau yn cael ei ystyried.

Mae BECTU nawr yn dweud bod “trafodaethau â’r rheolwyr wedi methu â sicrhau cyfaddawd digonol i ddatrys yr anghytundeb.”

Yn ôl Swyddog BECTU Cymru, David Donovan, mae aelodau’r undeb “wedi eu siomi gyda’r diffyg datblygiad er gwaetha’r trafodaethau.

“Gweithredu streic yw’r opsiwn olaf, ond rydyn ni nawr yn paratoi ar ei gyfer.”

BBC Cymru yn datgan ‘siom’

Mae BBC Cymru wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “siomedig” fod  Undeb “BECTU wedi dewis cymryd y cam sydd â’r potensial i gael effaith niweidiol” ar ei gwasanaethau.

“O ystyried record hynod dda’r BBC o ran llwyddo i adleoli gymaint â phosib o staff, mae’n siomedig bod BECTU wedi dewis cymryd y cam hwn sydd â’r potensial i gael effaith niweidiol ar ein gwasanaethau ar gyfer ein cynulleidfaoedd,” meddai BBC Cymru.

“Rydyn ni, a byddwn yn parhau i fod, yn ymroddedig i weithio gyda’r holl unigolion hynny all fod yn wynebu diswyddiadau i chwilio am waith arall,” meddai’r llefarydd.

Dyma’r ail dro i BECTU fygwth streic ar y mater yma, wedi iddyn nhw ohirio streic ym mis Awst ar yr un mater, tra bod apêl yn erbyn y diswyddiadau yn cael ei ystyried.