Fferm Llyndy Isaf
Cafodd dau gynhyrchydd ffilm eu hysgogi i wneud ffilm am fferm Gymreig er mwyn annog y cyhoedd i helpu i ddiogelu ei dyfodol.
Wedi eu hysbrydoli gan apêl gyhoeddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu Llyndy Isaf yn Eryri, fe wnaeth Pete Dungey a Joe Spiteri  gynhyrchu ffilm gyfareddol yn dangos harddwch y fferm.
Er na fu’r pâr erioed yn Llyndy Isaf yn Nant Gwynant, ger Beddgelert cyn hyn, pan wnaethon nhw sylweddoli beth oedd yn y fantol roedden nhw’n teimlo cymhelliant i helpu cronfa apêl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu’r fferm a’i diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

‘Rhan hanfodol o Eryri’
Dywedodd Pete: “Mae Llyndy Isaf yn rhan hanfodol a gwerthfawr o Eryri.  Gallai heddwch yr ardal gael ei chwalu mor hawdd ac roedden ni eisiau defnyddio ein sgiliau i helpu i ddiogelu ei ddyfodol.”
Fe enwodd y pâr eu ffilm yn ‘Imprisoned Paradise’ gan eu bod yn credu fod y rhan yma o Eryri’n eidyl heddychlon sy’n cael ei dal yn gaeth gan y mynyddoedd o gwmpas.
Dywedodd Pete: “Nid pawb sy’n ddigon lwcus i allu ymweld â’r rhan yma o Gymru, felly nod ein ffilm ydi cludo’r gwyliwr i’r ardal am dri munud byr, fel y gall hyd yn oed rywun mewn swyddfa yn Llundain werthfawrogi’r ardal a chyfrannu, gobeithio.”

Apel bwysig
Fe dreuliodd y pâr ddyddiau dan gynfas, yn dioddef tywydd erchyll i greu ffilm hudolus a all helpu i dynnu sylw’r cyhoedd at y lle anhygoel yma a’r apêl bwysig.
Yn gynharach eleni fe lansiodd yr actor Cymreig rhyngwladol Matthew Rhys yr ymgyrch i godi £1 filiwn i ddiogelu Llyndy Isaf.  Fe alwodd ar bobl Cymru a thu hwnt i helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gasglu’r arian i brynu’r fferm fynydd 600 erw  yma ar lannau Llyn Dinas yn Eryri, apêl gefn gwlad fwyaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Deyrnas Unedig mewn dros ddeng mlynedd.
Ers lansio’r apêl fe gasglwyd  £750,000 ond mae angen un ymdrech olaf i gyrraedd yr £1 filiwn sydd ei angen i brynu’r fferm.
Dywedodd Matthew Rhys yn ddiweddar: “Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch chi sydd wedi cyfrannu eich arian eisoes i’n helpu i ddiogelu Llyndy Isaf.  Mae pobl o bell ac agos wedi bod yn hael iawn, ond dydyn ni ddim yna eto ac mae’r cloc yn tician.
“Mae’r ffermwr wedi rhoi tan ddiwedd y flwyddyn i ni ac os na chodwn ni’r filiwn o bunnau erbyn hynny  fe gaiff y fferm ei gwerthu ar y farchnad agored.  Felly os ydych chi, fel finnau’n caru Eryri ac eisiau helpu i ofalu am yr un gornel arbennig yma cyfrannwch tuag at Apêl Eryri, mae arnon ni wir angen eich help.”

Technegau arbenigol
Gan ddefnyddio technegau arbenigol mae’r ddau wneuthurwr ffilmiau o Rydychen wedi gallu canolbwyntio ar harddwch Llyndy Isaf nad yw’n cael ei weld yn aml.
“Mae Llyndy Isaf mor ddiddorol ar lawr y goedwig ag ydi o o ben y dyffryn,” meddai Pete.
“Gan ddefnyddio saethiadau macro manwl roedden ni’n gallu cyflwyno harddwch elfennau bychan na fyddai neb yn sylwi arnyn nhw fel rheol fel y pry copyn bychan yn ymddangos o’i gynefin.
“Roedden ni hefyd yn gallu cipio peth ffilm danddwr fel bod y gynulleidfa’n cael eu trochi yn y llyn ei hun.”
Gellir gweld ffilm Pete a Joe, ‘Imprisoned Paradise’ ar www.nationaltrust.org.uk/snowdoniaappeal

Os oes rhywun sy’n dymuno cyfrannu, trefnu digwyddiad i godi arian neu i gefnogi’r apêl mewn unrhyw ffordd arall, cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
ar 0844 800 1895 neu www.nationaltrust.org.uk/snowdonia I gael y newyddion diweddaraf ar yr apêl darllenwch flog yr ymgyrch ar www.ntsnowdonia.wordpress.com <http://www.ntsnowdonia.wordpress.com> <<file:///\\www.ntsnowdonia.wordpress.com\>>