Mae cynghorydd tref o Wynedd wedi dweud ei fod yn “bryderus” am doriadau arfaethedig i ganolfannau iaith y sir.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cynnig cwtogiad o £96,000 i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019, ac mae hynny eisoes wedi’i feirniadu gan ymgyrchwyr iaith.

Pwrpas y canolfannau yma yw cyflwyno plant mewnfudwyr – o gefndiroedd di-Gymraeg – i’r Gymraeg a’u paratoi ar gyfer addysg uwchradd/cynradd yn yr iaith.

Mae Simon Brooks, Cynghorydd ar Gyngor Tref Porthmadog – lle mae yna ganolfan drochi – yn credu mai’r canolfannau yw un o brosiectau “mwyaf llwyddiannus Gwynedd”  a bellach mae wedi rhannu ei ofidion yntau.

“Dw i’n derbyn bod Cyngor Gwynedd yn derbyn toriadau,” meddai wrth golwg360. “Mae’n rhaid i bawb yng Ngwynedd dderbyn hynny fel ffaith syml.

“Ond, wedi dweud hynny, helpu mewnfudwyr … a chynnal y Gymraeg yw egwyddorion [creiddiol] y Blaid yng Ngwynedd.

“Felly dw i’n meddwl bod angen i gabinet y Cyngor Sir gael dadl gref iawn, iawn, iawn ynglŷn â pham eu bod wedi penderfynu gwneud toriadau yn y maes yma yn hytrach na maes arall.

“Dw i’n gwybod eu bod nhw’n wynebu toriadau, ond wedi dweud hynny maen nhw’n dal gyda chyllideb o rhai cannoedd o filiynau o bunnau.”

Effaith y toriad

Mae Simon Brooks wedi gwneud cais brys i Gyngor Tref Porthmadog gynnal dadl tros gynlluniau’r Cyngor Sir, am bod yna ganolfan trochi disgyblion uwchradd yn yr iaith Gymraeg yn y dref.

Gan atseinio pryderon Cymdeithas yr Iaith, mae’n egluro y gallai llai o gyllid olygu bod yna lai o athrawon yn y canolfannau.

A byddai goblygiadau i hynny o ran nifer y newydd-ddyfodiaid sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg, meddai.

“Mae hynny’n codi’r gofid na fyddan nhw yn dychwelyd i’r ysgol gyda Chymraeg cystal,” meddai. “Ac os ydy hynny’n wir mae hynny’n arwain at nifer o bethau.

“Mi allai olygu nad yw plant yn codi Cymraeg yn iawn. Peth arall wrth gwrs yw ei fod yn cael yr effaith o Seisnigo plant eraill yn yr ysgol.”