Bydd deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau deddfwriaethol ynglyn a’r sŵn sy’n cael ei greu gan dyrbinau gwynt yn cael ei drafod gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad heddiw.

Mae’r ddeiseb, sydd wedi ei harwyddo gan dros 1,000 o bobol, yn galw am gyfnodau o dawelwch a fyddai’n ei gwneud hi’n ofynnol bod tyrbinau gwynt yn cael eu diffodd am gyfnodau.

Mae’n gofyn i’r cyfnodau tawel gael eu gorfodi ar bob tyrbein gwynt sy’n cynhyrchu mwy nag 1.3 megawatt o bwer, ac y dylai’r cyfnod diffodd y tyrbein amrywio yn dibynnu ar ba mor agos ydyn nhw at gartrefi pobol a chymunedau.

Yn ôl y ddeiseb, sy’n dwyn y teitl ‘Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod’, mae Llwyodraeth Cymru yn esgeuluso’r materion iechyd a diogelwch sydd ynghlwm wrth dyrbinau gwynt ar hyn o bryd.

Yn ôl y prif ddeisebydd a’r ymgyrchydd yn erbyn tyrbinau gwynt, James Sheperd Foster, mae angen mwy o ymchwil rhag ofn bod peryglon iechyd posib o fyw’n rhy agos at y tyrbinau.

“Mae gan Gymru hen hanes o esgeuluso materion Iechyd a Diogelwch, ac mae hyn wedi arwain at gyfyngu ar fywydau pobl mewn cyfran helaeth o’r gymuned,” meddai.

Mae e hefyd yn honni bod y sŵn sy’n cael ei greu gan dyrbinau gwynt yn “chwarae â chlyw pobol ifanc.”

Bydd y ddeiseb yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Deisebau yn ystod y bore, cyn cael ei gyflwyno’n swyddogol i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yr Aelod Cynulliad William Powell, wrth fynedfa’r Senedd am 12.45pm.