Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig, wedi llongyfarch Mark Drakeford ar gael ei ethol yn arweinydd newydd y blaid yng Nghymru.

“Dw i’n gwybod bydd Mark yn brwydro yn ddi-baid tros fuddion pobol Cymru,” meddai.“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Mark wrth iddo adeiladu ar y seiliau mae [Carwyn Jones] wedi’i osod.

“Mi fydd yn darparu cynllun beiddgar tros swyddi a buddsoddi. A bydd yn cyflwyno cynigion blaengar ar gyfer economi modern, carbon isel.”

Mae Jeremy Corbyn hefyd wedi canmol yr ymgeiswyr aflwyddiannus, Eluned Morgan a Vaughan Gething, am “angerdd” eu hymgyrchoedd.

Y canlyniad

Enillodd Mark Drakeford 53.9% o bleidleisiau gan aelodau Llafur yng Nghymru, gyda Vaughan Gething yn dod yn ail â 41.4%.

Roedd disgwyl iddo ennill yn ystod rownd cyntaf y bleidlais, ond methodd ag ennill dros hanner y bleidlais yn ystod y rownd honno gan ennill 46.9%.

Enillodd Vaughan Gething 30.8% yn ystod y rownd gyntaf, gydag Eluned yn dod yn drydydd ag ond 22.3% – cafodd ei phleidleisiau hi eu trosglwyddo i’r ddau arall ar gyfer yr ail rownd.