Bu farw Ann Tydfor (Margaret Ann Jones),cyn-athrawes a gwraig y diweddar fardd a diddanwr, Tydfor. Roedd hi’n 80 oed.

Roedd yn hanu o ardal Llanberis ger Caernarfon, ond fe ymgartrefodd yng ngodre Ceredigion ar ôl priodi ag aelod o deulu enwog o feirdd y Cilie.

Bu Tydfor Jones yn ddiddanwr enwog yn ei ddydd, ac mae nifer yn dal i’w gofio fel aelod o’r grŵp, Adar Tydfor, ac fel cyfrannwr cyson i’r rhaglen radio boblogaidd Penigamp ar ddechrau’r 1970au.

Yn dilyn ei farwolaeth sydyn mewn damwain tractor yn 1983, bu Ann Tydfor yn ffermio’r Gaerwen ar ei liwt ei hun am gyfnod, cyn symud yn ddiweddarach i fyw ym mhentref Penparc ger Aberteifi.

Yn 1993, bu’n gyfrifol am gyhoeddi’r gyfrol Rhamant a Hiwmor Tydfor, sy’n gasgliad o farddoniaeth a chaneuon ei diweddar ŵr.

Fe gynhelir ei hangladd ddydd Sadwrn (Rhagfyr 8) yng Nghapel-y-Wig, Blaencelyn, lle mae’r rhan fwyaf o feirdd y Cilie wedi’u claddu.