Mae cwmni asiantwyr tir yng Nghymru’n rhybuddio y dylai ffermwyr sydd heb arallgyfeirio eto i gychwyn paratoi ar unwaith ar gyfer y cyfnod wedi Brexit.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan DEFRA yn ddiweddar, mae 38% o ffermwyr yng Nghymru wedi ymgymryd ag arallgyfeirio, o gymharu â dwy ran o dair yn Lloegr.

Dywed Richard Corbett o Roger Parry & Partners ei fod yn pryderu nad yw nifer o ffermwyr yng Nghymru yn barod ar gyfer y newidiadau a fydd yn dod i’r sector amaethyddol wedi i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith yr opsiynau ar gyfer arallgyfeirio sy’n boblogaidd ymhlith ffermwyr gwledydd Prydain ar hyn o bryd, meddai, mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gwerthu wyau, bragu cwrw a chynnal priodasau ar y fferm.

‘Mentrwch’

“Bydd y busnesau fferm hynny sy’n barod i gydnabod bod newid ar y ffordd, ac wedi cynllunio ar gyfer y dyfodol, yn fwy cadarn yn wynebu yr ad-drefnu i’r diwydiant sydd ar y gweill,” meddai Richard Corbett.

“Mae’r ffermwyr hynny mewn sefyllfa well i fanteisio ar unrhyw gyfleon y dyfodol…

“Mae angen penderfyniadau mentrus, sgiliau newydd a buddsoddiad ariannol newydd. Nawr yw’r amser i bob ffermwr archwilio eu busnes yn ofalus, a phenderfynu ar y ffyrdd gorau o wella’i elw.”