Carchar y Parc
Mae golygydd papur newydd i garchardai wedi wfftio at honiadau fod carcharorion yn cael amser rhy hawdd yng Ngharchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae nifer o’r papurau tabloid yn cynnwys stori am garcharorion yn cwyno nad ydyn nhw’n cael holl sianeli chwaraeon Sky ar eu setiau teledu yno.

Ond, yn ôl golygydd y papur Converse, mae’r stori wedi ei gorliwio ac yn creu camargraff lwyr am yr amodau yn y carchar sydd yn nwylo’r cwmni preifat G4S.

Dim ond ychydig o garcharorion sydd ar fin gadael  y carchar sy’n cael setiau teledu yn eu celloedd, meddai Mark Leech wrth Radio Wales.

Mae hynny’n golygu eu bod wedi cadw at yr holl reolau ac yn gorfod talu am y sianeli teledu o’u harian eu hunain, meddai’r newyddiadurwr sy’n gyn garcharor ei hun.

Mae papurau fel y Daily Mail yn rhyfeddu at y stori a’r awgrym bod carcharorion yn ystyried dod ag achos o dan y gyfraith hawliau dynol.