Carwyn Jones
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn amlinellu ei raglen lywodraethu heddiw.

Dywedodd Carwyn Jones yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl ddoe y byddai’n cynnwys “targedau fel bod pobl yn gallu ein beirniadu ni ar yr hyn rydan ni wedi ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.”

Y bwriad, yn ôl swyddogion y llywodraeth yw gwneud Llywodraeth Cymru yn “fwy agored a thryloyw” a gweld a ydi’r Llywodraeth ar y trywydd iawn mewn meysydd polisi penodol.

Dywedodd Mr Jones yn y gynhadledd y byddai’r rhaglen yn seiliedig ar bum polisi sef rhagor o brentisiaethau a hyfforddiant ar gyfer pobl ifainc; caniatau i gleifion  weld meddygon teulu gyda’r nos ac ar ddydd Sadwrn a phrofion iechyd i bobl dros 50 oed; rhagor o arian i ysgolion; 500 o blismyn cymunedol ychwanegol, a chynydd yn nifer y plant sy’n cael gofal am ddim.