Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi penodi 30 dditectif newydd er mwyn mynd i’r afael â chynnydd mewn troseddau seiber a cham-fanteisio ar blant a phobol ifanc.

Mae’r cam hwn yn cael ei ystyried yr ad-drefnu mwyaf yn hanes y llu.

Ers 2010, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gorfod wynebu toriadau gwerth £30 yn ei gyllideb, ac mae disgwyl y bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd wneud £3.24m o arbedion y flwyddyn nesaf.

Yn ôl y Prif Uwcharolygydd, Alex Goss, y nod yw gwneud y defnydd gorau posib o “adnoddau cyfyngedig” yr heddlu wrth ymateb i heriau newydd fel y newid yn natur troseddau.

“Buddsoddi yn ein rheng flaen”

O dan y trefniant newydd, bydd 12 o dditectifs a 12 o staff cymorth ychwanegol yn cael eu cyflogi, gyda rhagor o hyfforddiant hefyd yn cael ei gynnig i staff cefnogi er mwyn iddyn nhw ymdopi ag ymchwiliadau mwy cymhleth.

Bydd yr ailstrwythuro hefyd yn golygu adolygu patrwm shifftiau presennol, er mwyn sicrhau bod mwy o swyddogion yn cael eu defnyddio ar y rheng flaen.

“Y nod yw cefnogi ein timau plismona yn y gymdogaeth i ddelio â materion yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, a lle bo hynny’n bosib, atal pethau cyn iddyn nhw waethygu,” meddai’r Prif Uwcharolygydd, Alex Goss.

“Mae hyn yn ymwneud â buddsoddi yn ein rheng flaen, proffesiynoli ein rheng flaen a sicrhau ein bod yn addas ar gyfer y dyfodol – ond yr allwedd go iawn yw’r buddsoddiad yn ein hadnoddau ymchwilio i ddarparu’r gwasanaeth heddlu gorau posib i bobol sy’n agored i newid ar draws yr ardal.”