Mae dau fyfyriwr yn Rhydychen wedi sefydlu rhwydwaith er mwyn annog myfyrwyr i ddychwelyd i Gymru a chyfrannu at ei dyfodol.

Theo Davies-Lewis, myfyriwr 21 oed, ac Owain James myfyriwr PhD 25 oed ydi sylfaenwyr ‘Darogan’, gyda’r prif nod o “ddangos o ddifrif bod angen gwneud rhywbeth nawr” ynglŷn â faint o dalent sydd yn gadael Cymru a ddim yn dod yn ôl,

“Dydw i ddim yn gallu pwyntio bys at unrhyw beth sydd wedi cael ei wneud ym Mae Caerdydd i ddenu pobol yn ôl,” meddai Theo Davies-Lewis, sy’n dod o Lanelli, wrth golwg360.

“Fel myfyriwr yn Lloegr, rwy’n ymwybodol iawn o hynny.”

Rhwng 2013 a 2016, fe ddaeth 23,807 o raddedigion i Gymru, ond fe adawodd 44,335 y wlad – sy’n golygu fod Cymru wedi colli 20,528 o raddedigion mewn tair blynedd.

Rhwydwaith newydd

Mae Darogan wedi bod yn gweithio i ennyn cefnogaeth cwmnïau, elusennau a gwleidyddion fyddai’n galluogi i’r fenter ddatblygu.

“Beth ydyn ni wedi bod yn gwneud yw ysgrifennu at y llywodraeth ac at y gwleidyddion i ofyn am gefnogaeth, am gymorth, ac am gyfarfod yn y flwyddyn newydd,” meddai Theo Davies-Lewis wedyn. Ef hefyd yw sylfaenydd Cymdeithas Cyfryngau Rhydychen.

“Does dim math o syniad neu rwydwaith fel hyn yng Nghymru ar hyn o bryd, felly beth ni mo’yn yw gwneud yn siŵr bod y llywodraeth am ein helpu ni.

“Rhyw fath o ‘LinkedIn’ Cymraeg i raddau fydd e, ble gall bobol dangos i gwmnïau pwy ydych chi, beth yw’r sgiliau sydd gyda chi, a sut berson ydych chi.”

Dyfodol llawn cysylltiadau

Mae Theo Davies -Lewis yn credu’n gryf bod angen gwella sut mae myfyrwyr yn cysylltu, gan grybwyll nad yw’n gweld digon o hyn yn digwydd.

“Mae angen cael pobol gyda meddylfryd tebyg at ei gilydd yng Nghymru,” meddai.

“Ni wedi cael dros ugain  bobol i ymuno yn barod – mewn diwrnod – a sa i’n nabod nhw i gyd, ac mae Prifysgol Warwick wedi ymuno â ni yn swyddogol.

“Yn y dyfodol, r’yn ni eisiau bod mewn sefyllfa be gallen ni ddweud bod gyda ni lot o arian o gefnogaeth a bod llawer o fyfyrwyr ifanc wedi ymuno.

“Ar hyn o bryd mae Darogan yn galw am gefnogaeth cwmnïau a gwleidyddion er mwyn dangos i bobol ifanc bo’ nhw mo’yn gwneud esiampl.”