Mae math newydd o sganiwr diogelwch – sydd â’r gallu i dorri i lawr ar yr amser aros, yn ôl ymchwilwyr – yn cael ei dreialu ym maes awyr Caerdydd.

Yn wreiddiol, roedd y sganiwr yn defnyddio synwyryddion a gynlluniwyd i ganfod gweithgaredd seryddol yn y gofod.

Ond rŵan mae’n defnyddio’r corff dynol fel ffynhonnell golau i weld gwrthrychau cudd wrth i berson cerdded trwyddo.

Mae’r gwrthrychau hyn yn ymddangos fel cysgodion yn erbyn y corff – ac mae’r gallu ganddo i ddweud y gwahaniaeth rhwng eitemau pob dydd fel ffonau symudol, a rhai eraill sydd wedi eu gwahardd ar awyrennau.

Dywedodd gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd a QMC Instruments mi fydd y sganiwr yn cael ei dreialu rhwng Rhagfyr 4 a 7.

Mi fyddai’r sganiwr newydd yn golygu na fyddai angen i deithwyr tynnu siacedi neu eitemau o’u pocedi.

Mae’r prosiect yn un o wyth sydd wedi derbyn cyllid o £1.8 miliwn sydd ar gael gan y Llywodraeth drwy gystadleuaeth amddiffyn a chyflymyddion systemau diogelwch.