Mae “arwyddion cynnar o welliant” yn safon addysg yng Nghymru eleni, yn ôl adroddiad blynyddol y corff arolygu, Estyn, sy’n carl ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 4).

Yn ôl y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant, Meilyr Rowlands, mae safonau’n “dda” neu’n “well” mewn wyth o bob deg (80%) ysgol gynradd – sy’n gynnydd o (70%) ar y llynedd.

Mae’r ganran o ysgolion sy’n cael eu fyfarnu’n ‘rhagorol’ wedi dyblu o 4% i 8%.

Mewn ysgolion uwchradd hefyd mae’r safonau’n parhau’n “dda neu well” yn eu hanner nhw (50%), sef yr un ganran â’r  llynedd.

Cwricwlwm newydd

“Er mwyn i welliant barhau ac i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd” mae angen i ysgolion “roi blaenoriaeth i wella profiad disgyblion yn yr ystafell ddosbarth” meddai’r Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands.

“Mae’r ysgolion gorau wedi gosod y sylfeini ar gyfer addysg dda, ac yn ogystal maent yn cynnig profiadau ysgogol i ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth sy’n ymwneud â bywyd go iawn yn aml.

“Mae llawer i’w wneud i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd ac rwy’n annog ysgolion i ddarllen fy adroddiad blynyddol a defnyddio’i adnoddau er mwyn helpu’u hunan arfarnu a chynllunio gwelliant.”

“Symud ymlaen trwy’r amser”

Drwy newid meddylfryd disgyblion ac athrawon a pharhau i “symud ymlaen trwy’r amser” y daw llwyddiant meddai Moira Kellaway, prif athrawes Ysgol Gynradd Y Wern yn Llanisien, Caerdydd.

Ond tydi hynny ddim yn broses hawdd, meddai wrth golwg360.  

“Mae rhagoriaeth o ganlyniad i waith caled sy’n cael ei gynnar dros gyfnod hir o amser – tydi o dim rhywbeth sy’n digwydd dros nos.”

O ran y cwricwlwm newydd,  ceisio dysgu plant ac athrawon i “beidio bod ag ofn gwneud camgymeriadau” yw amcan y brif athrawes.

“Os rydych chi’n rhoi’r rhyddid a’r gefnogaeth i blant drio pethau newydd mae’n arwain at arloesedd, a dyma rydym wedi ei weld yma.”

Ysgolion Cynradd yn “rhagori”

Wrth gyfeirio ar yr adroddiad, dywedodd David Evans, ysgrifennydd Undeb Addysg Genedlaethol Cymru;

“Yn benodol rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth o well safon yr 1272 o ysgolion cynradd sydd yng Nghymru, lle mae’r nifer a ddyfarnwyd i fod yn ‘ardderchog’ wedi dyblu.”

“Gyda chyllidebau’n lleihau, adnoddau’n lleihau, swyddi yn cael eu colli, llwyth gwaith yn cynyddu a meintiau dosbarth yn ehangu, mae’n rhaid inni gymeradwyo’r proffesiwn sy’n ymladd i wella addysg”