Cafodd gyrrwr a dau o’i ffrindiau eu lladd ar ôl i’w gar daro lori yng Nghaerdydd, clywodd cwest heddiw.
Roedd Alex Davidson, 19, wedi yfed alcohol a chymryd canabis, ynghyd a’i ffrindiau Robert Bambridge, 24, a Dayne Thomas, 19, cyn y gwrthdrawiad.
Clywodd Llys y Crwner ym Mhontypridd mai dim ond trwydded dros dro oedd gan Alex Davidson ac nad oedd ganddo yswiriant ar gyfer ei gar Ford Focus.
Roedd y tri wedi bod yn yfed alcohol ers tua 6yh yn fflat ffrind arall ym Mhontypwl, Brandon Driscoll. Tua 2yb fe benderfynodd y tri adael i fynd i glwb nos yng Nghaerdydd.
Roedd lluniau camerâu cylch cyfyng wedi dangos y cerbyd yn gyrru ar ochr anghywir y ffordd yng Nghaerdydd cyn gwrthdaro a lori 21 tunnell tua 4yb ar 5 Awst.
Bu farw Dayne Thomas o Gwmbrân yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd am 5.15yb. Bu farw Alex Davidson, a Robert Bambridge, o Bontypwl, yn y fan a’r lle.
Daeth y crwner Graeme Hughes i’r casgliad bod y tri dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad gydag alcohol a chyffuriau yn ffactor yn eu marwolaethau.