Mae’r ddeuawd roc a blws o Lanrug ger Caernarfon – Alffa, wedi cyrraedd miliwn gwrandawiad ar y platfform ffrydio cerddoriaeth, Spotify.

Cafodd y gan ‘Gwenwyn’, sef ail sengl y band, a enillodd Brwydr y Bandiau yn 2017, ei ryddhau ar label Yws Gwynedd, Recordiau Cosh, ym mis Gorffennaf.

Dim ond chwech mis sydd wedi bod ers hynny, ond o fewn y cyfnod hwnnw mae Alffa wedi creu hanes ar ôl cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau, a hynny ar draws y blaned.

O Dde America i Awstralia ac o America i Ewrop mae’r gitarydd Dion Jones a’r drymiwr Sion Land yn diddanu clustiau ar lefel rhyngwladol.

Fe gafodd ‘Gwenwyn’ swm o 23,300  ffrwd mewn un diwrnod.

Mae’n golygu bod Alffa bellach ar frig siart ffrydio Cymru ar Spotify – o flaen ‘Patio Song’ gan Gorky’s Zygotic Mynci sydd rŵan yn ail, a ‘Fratolish Hiang Pepeshki’ sy’n drydydd.

“Amser mor gyffrous”

Mae Yws Gwynedd, sy’n rhedeg Recordiau Cosh, yn “teimlo’n lwcus iawn” cael rhedeg label mewn “amser mor gyffrous” ble mae “ffiniau ieithyddol yn cael ei chwalu’n racs.”

“Mae llwyddiant ‘Gwenwyn’ yn arwyddocaol mewn toman o ffyrdd, yr un mwyaf sylfaenol i’r band a’r label yw bod yr incwm daw o hyn yn mynd i ariannu albwm cyfan i’r band,” meddai Yws Gwynedd

“Ar ddiwedd y dydd, dyna yda’ ni yma i wneud – creu cerddoriaeth o safon gan fandiau mwyaf cyffrous Cymru.”

“Megis cychwyn”

Yn ôl Alun Llwyd o gwmni PYST hefyd, sydd yn dosbarthu ‘Gwenwyn’, mae llwyddiant Alffa a Cosh yn “ysgubol.”

“Y peth mwyaf cyffrous yw mai adlewyrchiad yw hyn oll o gyfoeth, cryfder a phrysurdeb toreithiog labeli ac artistiaid Cymru. Megis cychwyn yw hyn.”