Mae’r sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru yn wynebu “nifer o heriau sylweddol” pe byddai gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Allanol wedi clywed “ystod eang o bryderon” gan sefydliadau yn y sector iechyd ynghylch y prinder amser i baratoi ar gyfer sefyllfa o’r fath.

Mae hyn yn enwedig, medden nhw, lle mae trefniadau cyflenwi meddyginiaethau, mynediad at ymchwil glinigol a’r gallu i gadw’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn y cwestiwn.

Dywed y pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru “gynyddu ei hymdrechion” i baratoi’r sector iechyd yng Nghymru ar gyfer Brexit.

Pryder

Yn ôl tystiolaeth a gafodd ei chyflwyno i’r pwyllgor gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, mae 45 miliwn o becynnau meddyginiaeth i gleifion yn cael eu cludo o wledydd Prydain i’r Undeb Ewropeaidd bob mis.

Mae dros 37m o becynnau meddyginiaeth wedyn yn symud i’r cyfeiriad arall, medden nhw ymhellach.

Ond er i’r pwyllgor glywed mai Llywodraeth Prydain fydd yn arwain o ran sicrhau cyflenwad parhaus o feddyginiaethau, pe na bai cytundeb Brexit bydd rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau na chaiff gwasanaethau iechyd yng Nghymru eu heffeithio.

Paratoi

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir gymaint o heriau a fyddai’n wynebu’r sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru pe ceir Brexit heb fargen,” meddai’r Aelod Cynulliad, David Rees, Cadeirydd y pwyllgor.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei hymdrechion i baratoi’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar gyfer Brexit.

“Mae hyn yn cynnwys rhoi’r sicrwydd sydd ei angen arnom fod cynlluniau ar droed i gyfathrebu â phob lefel o’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”