Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn arall yn ardal Casnewydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 3 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 2) yn dilyn adroddiadau bod dyn yn gorwedd yn anymwybodol mewn eiddo yn ardal Bryn Glas y ddinas.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Does gan yr heddlu ddim esboniad hyd yn hyn, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.