Fe fydd y cwest i farwolaeth pedwar o lowyr pwll glo Gleision yng Nghwm Tawe yn cael ei agor heddiw.

Bu farw Phillip Hill, 45, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, ar ôl i ddŵr lifo i mewn i’r pwll yng Nghilybebyll, ger Pontardawe yn gynharach y mis hwn.

Heddiw fe fydd y cwest yn cael ei agor gan y crwner Phillip Rogers yn Abertawe. Mae disgwyl i’r gwrandawiad byr gyhoeddi tystysgrifau marwolaeth fel bod teuluoedd y glowyr yn gallu gwneud paratoadau ar gyfer angladdau’r pedwar.

Fe ddigwyddodd y drasiedi ym mhwll Gleision ar 15 Medi ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i ddigwyddiad yn y pwll. Roedd tri glowr wedi llwyddo i ddianc rhag y dŵr oedd yn llifo i’r pwll ar ôl wal ddymchwel. Cafodd cyrff y pedwar glowr arall eu darganfod y diwrnod canlynol.

Mae Heddlu’r De a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal ymchwiliad i’r ddamwain. Disgwylir i’r ymchwiliad gymryd hyd at 12 wythnos i’w gwblhau.

Angladdau

Yn y cyfamser cyhoeddwyd manylion yr angladdau. Bydd angladd Charles Breslin, o Gwm Tawe, yn amlosgfa Abertawe ddydd Mercher. Bydd angladd Phillip Hill, o Gastell-nedd, yn amlosgfa Margam ddydd Gwener, a chynhelir angladd Garry Jenkins, o Gwm Tawe, yng Nghapel Beulah, Cwmtwrch Isa  ddydd Sadwrn a’r gladdedigaeth yn Ystradgynlais.

Dyw manylion angladd David Powell o Gwm Tawe heb eu cadarnhau hyd yn hyn.

Yn y cyfamser mae cronfa apel a sefydlwyd i helpu teuluoedd y glowyr wedi casglu dros £200,000.