Mae Heddlu Dyffryn Tafwys yn credu bod llanc 17 oed sydd ar goll wedi teithio i Abertawe.

Maen nhw’n chwilio am Sonny Stirton, a gafodd ei weld ddiwethaf ym Milton Keynes ddydd Iau, Tachwedd 22.

Mae lle i gredu ei fod e wedi mynd oddi yno, gan deithio i Gymru.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.