Mae heddluoedd Cymru’n lansio ymgyrch yn erbyn yfed a gyrru dros y Nadolig heddiw, gyda rhybudd i yrwyr eu bod yn targedu cefn gwlad yn ogystal ag ardaloedd trefol.

Yn yr ymgyrch a fydd yn parhau drwy’r mis, fe fydd yr heddlu’n defnyddio tactegau cudd-wybodaeth a gwybodaeth leol o lecynnau sydd ag enw drwg am yfed a gyrru er mwyn dal y troseddwyr.

“Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ofyn i bobl wneud y dewis iawn,” meddai’r Uwcharolygydd Jane Banham o Uned Plismona’r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru.

“Trwy ddefnyddio’r hashnod #DewisDoeth, bydd ein negeseuon yn cael eu defnyddio ar dudalennau cymdeithasol drwy gydol yr ymgyrch.

“Bydd y swyddogion o Uned Plismona’r Ffyrdd, Timau Cymdogaethau Diogelach a’r Heddlu Gwirfoddol yn gweithio yn ddyfal i ddal pobl ac os oes unrhyw un yn ystyried gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau mi ddylen nhw wybod y byddwn allan yna yn aros amdanyn nhw.

“Peidiwch â meddwl bod byw mewn ardal wledig yn eich diogelu oherwydd tydi o ddim.”

‘Gadewch y car adref’

Yr un oedd neges yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: “Yn anffodus, mae nifer o yrwyr yn parhau i beryglu eu bywydau eu hunain ac eraill drwy yrru pan na ddylent wneud.

“Mae fy neges yn glir – y ffordd orau er mwyn sicrhau diogelwch pawb yw trefnu o flaen llaw os ydych yn mynd allan i yfed a gadael y car adref. Nid yw’n werth y risg.

“Mae gwasanaethau’r Heddlu, Tân ac Achub ac Ambiwlans yn gwneud gwaith gwych a nhw sy’n gorfod delio â goblygiadau gyrru dan ddylanwad a hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith.

“Mae’r ymgyrch #DewisDoeth yn ceisio sicrhau fod pawb sy’n defnyddio ein ffyrdd yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel a chyfrifol, yn union fel y dylen nhw ei wneud.”