Mae cynghorydd sir o Aberystwyth, sy’n hanu o ardal Wrecsam, wedi cyhuddo’r cyngor sir yng ngogledd-ddwyrain Cymru o fod yn “ddiog” o ran ei hagwedd tuag at y Gymraeg.

Daw sylwadau Mark Strong yn dilyn y ffrae ddiweddar ynghylch arwyddion ffordd uniaith ledled y sir, gydag ymgyrchwyr iaith wedi gosod sticeri ar 80 o arwyddion ‘Give Way’.

Yn ôl y cynghorydd, mae wedi bod wrthi ers misoedd yn ceisio cael Cyngor Sir Wrecsam i osod enw Cymraeg ar lôn lle mae ei rieni yn byw yn ardal Gresford.

Ond er i’r cyngor ildio i’w ddymuniad, mae Mark Strong wedi’i gythruddo gyda’r arwydd gwallus sydd wedi’i osod sy’n nodi ‘Maes y Cleyn’ yn hytrach na ‘Maes y Celyn’, a hynny o dan yr enw Saesneg, ‘Hollyfields’.

Ac mae Mark Strong yn dweud na fyddai Cyngor Wrecsam wedi gwrando arno o gwbl, oni bai am y ffaith ei fod yn gynghorydd sir ac yn deall sut mae’r drefn yn gweithio.

Agwedd “backward

“Mae’r ffordd mae Wrecsam yn trin yr iaith… maen nhw’n backward gyda’u hagwedd,” meddai Mark Strong wrth golwg360.

“Os fyddech chi’n cael awr i grwydro’r ardal, dw i’n hyderus y gallech ffeindio dwsin neu fwy o arwyddion [gwallus].”

Yn ôl Mark Strong mae Cyngor Wrecsam wedi hepgor enw Cymraeg un lôn, a chreu enw newydd iddi trwy gyfieithu yn llythrennol.

“Dw i’n gwybod am un yn y pentref nesaf – ‘Sprinfield Lane’ yw e yn Saesneg, ond maen nhw wedi’i gyfieithu i ‘Lôn Springfield’.

“Mae o jyst yn ddiog.”

‘Maes y Ffynnon’ yw’r enw cywir ar y lôn dan sylw, yn ôl Mark Strong.

“Tir llithrig”

Yn ôl Mark Strong, sy’n gynghorydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, mae gan Gyngor Wrecsam agwedd wael at y Gymraeg.

“Mae Cyngor Wrecsam ar dir llithrig, i ddweud y gwir,” meddai. “Y term Saesneg yw clutching at straws.

“Mae sawl enghraifft dros sawl polisi o ddiffygion gyda’u hagwedd at yr iaith Gymraeg…

“Fel oedolyn sydd wedi byw yn y Ffindir ac wedi priodi merch o’r Almaen, dw i’n gweld pethau o safbwynt y tu allan i Gymru,” meddai.

“Byddai neb yn trin yr iaith Almaeneg neu’r Ffindir fel hyn a chael get away.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Wrecsam am ymateb.