Mae dyn 38 oed wedi cael pedair blynedd o garchar ar ôl cnoi darn o glust dyn arall i ffwrdd yng Nghasnewydd.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod Andrew MacNamee wedi ymosod ar Paul Jenkins yn ystod ffrae y tu allan i dafarn Breeze yng nghanol y ddinas.

Roedd Andrew MacNamee yn mynnu mai dim ond amddiffyn ei hun yr oedd o fis Medi’r llynedd, ond fe ddyfarnodd y llys ei fod yn euog o achosi niwed corfforol.

Doedd y gŵr o Lyswyry ger Casnewydd na Paul Jenkins ddim yn gallu cofio’r digwyddiad, a bu rhaid i’r achos llys ddibynnu ar dystiolaeth yr heddlu a CCTV.

Mae’n debyg bod gan Andrew MacNamee hanes o droseddu mewn modd treisgar.

Mae eisoes wedi ei ddedfrydu ugain o weithiau am 30 o droseddau sy’n dyddio’n ôl i’r flwyddyn 2000.