Mae dedfryd cyfrifydd wnaeth ddwyn £1.8m o dan drwyn Llywodraeth Bermiwda, wedi cael ei hymestyn ar ôl iddo ddwyn £50,000 oddi ar ei fam ei hun.

Roedd Jeffrey Bevan, 51 ac o Gwmbrân, wedi perswadio ei fam y byddai’n buddsoddi ei chynilion ychydig fisoedd ar ôl iddo ddychwelyd adref o Bermiwda yn 2013.

Tra yn Bermiwda fe ddefnyddiodd y cyfrifydd ei wybodaeth o system ariannol y llywodraeth yno i ddwyn £1.8m dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae’n debyg ei fod wedi defnyddio £1.3m o’r arian hwnnw i dalu morgais ei dŷ, buddsoddi mewn 11 o dai eraill a phrynu dau gar Mercedes Benz.

O ran y cyhuddiad yn ymwneud â’i fam, fe gafodd Jeffrey Bevan ei ganfod yn euog o dwyll yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos hon, a’i ddedfrydu i ddeunaw mis o garchar.

Mae’r ddedfryd honno wedi’i hychwanegu at y saith mlynedd a phedwar mis a dderbyniodd fis Chwefror eleni am ei droseddau yn Bermiwda.