Fydd yna ddim tâl mynediad i Faes Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf pan fydd hi’n ymweld â Bae Caerdydd.

Mae trefnwyr prifwyl ieuenctid Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n am ddilyn yr un patrwm â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni.

Daw’r cam hwn er gwaethaf y cyhoeddiad fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi gwneud colled o £290,139 trwy beidio â chodi’r £20 arferol ar bawb oedd yn dod trwy’r gatiau.

Fe fydd yr Urdd yn cyflwyno Maes rhad am ddim o gwmpas Canolfan Mileniwm Cymru, er bod gofyn i unigolion sy’n dymuno mynd i unrhyw fannau cystadlu brynu bandiau braich.

“Rhad ac am ddim”

“Bydd mynediad i Faes yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim yn 2019, felly ni fydd angen tocynnau mynediad ar unrhyw staff na gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar eich uned,” meddai’r Urdd mewn pecyn gwybodaeth ar gyfer stondinwyr.

“Bydd rhaid i oedolion sy’n dymuno mynychu unrhyw leoliadau cystadlu (Theatr Donald Gordon, Stiwdios Rhagbrofion, Neuadd Gorawl, Neuadd Ddawns a.y.b.) brynu Bandiau Braich.

“Bydd manylion ynglŷn â phrynu bandiau braich ar ein gwefan o fis Chwefror 2019.”