Mae’r Gymraeg wedi bod “o fantais” i nifer o gwmnïau mawr ehangu eu busnes yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad busnes gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn nodi croeso i’r iaith gan gwmnïau sy’n cynnwys Boots, Santander, BT, Lidl a Marks & Spencer.

Mae rhai o’r cwmnïau hyn wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol ynglŷn â’u perthynas â’r Gymraeg, ond dywed yr adroddiad fod pob un ohonyn nhw wedi datgan bod yr iaith wedi denu cwsmeriaid newydd.

Cafodd yr ymchwil ei gynnal rhwng mis Ionawr a Mawrth eleni, gan gasglu barn o 82 o arweinwyr busnes.

Y ffigyrau

Mae’r adroddias Defnyddio’r Gymraeg – yr achos busnes yn nodi bod:

  • 76% yn cytuno bod defnyddio’r Gymraeg yn denu cwsmeriaid;
  • 82% yn cytuno bod defnyddio’r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth;
  • 84% yn cytuno bod defnyddio’r Gymraeg yn gwella brand busnes;
  • 16% yn cytuno bod yr iaith Gymraeg wedi llesteirio eu busnes.