Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw bellach yn ymchwilio i achos y cyfreithiwr John Owen o Landeilo.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys wrth Golwg 360 bod yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wedi cyfeirio’r mater atyn nhw.

“Gall Heddlu Dyfed Powys gadarnhau bod mater wedi ei gyfeirio atyn nhw gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a’u bod yn ei ystyried,” medden nhw mewn datganiad o dan y pennawd “Ymchwiliad Twyll”.

Ddydd Llun diwethaf, fe gaewyd swyddfa Cyfreithwyr John Owen yn Llandeilo wedi i’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr gamu i mewn ac atal Mr Owen rhag parhau â’i waith cyfreithiol.

Mae yntau wedi ymddiswyddo o’i waith yn Grwner Sir Gaerfyrddin.

Ar y cyd

Mae llefarydd ar ran yr Awdurdod wedi dweud wrth Golwg 360 eu bod nhw nawr yn delio â’r mater ar y cyd â’r heddlu.

“Byddwn ni yn gweithio ochr yn ochr â’r heddlu er mwyn cynnal ymchwiliad fforensig i waith y cwmni, felly rydyn ni’n parhau i ymchwilio.”

Fe fydd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr nawr yn ymchwilio i weld a yw côd ymddygiad yr Awdurdod wedi cael ei dorri, tra bod yr heddlu yn ymchwilio i unrhyw faterion troseddol.