Bu farw’r Parchedig Islwyn Lake, y gweinidog a’r heddychwr a oedd ers rhai blynyddoedd yn byw yn Porthmadog. Roedd yn 93 oed.

Fe ddeuai’n wreiddiol o Wdig, Sir Benfro, ac fe fu’n ddisgybl i’r llenor a’r cenedlaetholwr, D J Williams, yn Ysgol Ramadeg Abergwaun.

Ar ôl cyfnod ym Mhrifysgol Cymru Bangor, fe dreuliodd gyfnodau yn weinidog gyda’r Annibynwyr yn ardaloedd Treorci, Tanygrisiau, Abertawe a Machynlleth, cyn ymgartrefu yn nhref Porthmadog.

Bu hefyd yn heddychwr amlwg, ac roedd yn un o aelodau hynaf Cymdeithas y Cymod.

“Ffyddlon”

“Fe fu Islwyn Lake yn dawel, yn ddi-ffws ac yn ddi-sŵn yn ei ffordd o weithredu,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Dyfrig Rees, wrth golwg360.

“Bu Islwyn yn un o’n gweinidogion ffyddlonaf ni ar hyd yrfa hir iawn

“Roedd yn un o gyn-Lywyddion yr Undeb, ac yn argyhoeddedig iawn ei safiad dros heddwch a chyfiawnder trwy fod yn aelod blaenllaw iawn o Gymdeithas y Cymod… Fe fu hefyd yn frwd dros hawliau’r Gymraeg a Chymreictod.

“Mae Islwyn wedi sefyll ar y pynciau amhoblogaidd… ac wedi sefyll yn ffyddlon iawn.”