Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain ymweld â’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw (Tachwedd 27), wrth iddi geisio ennill cefnogaeth i’w chytundeb Brexit.

Daw ei hymweliad ychydig ddiwrnodau ar ôl i 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd gymeradwyo’r cytundeb drafft, a chyn y bydd San Steffan yn pleidleisio arno ym mis Rhagfyr.

Wrth ymweld â Maes y Sioe, bydd Theresa May yn cyfarfod â ffermwyr a chynhyrchwyr o Gymru, yn ogystal â gwleidyddion.

Bydd wedyn yn mynd yn ei blaen i Ogledd Iwerddon er mwyn cyfarfod â phum plaid wleidyddol y wlad yn Belffast.

Mae disgwyl iddi ymweld â’r Alban hefyd o fewn y dyddiau nesaf.

“Grymoedd yn dychwelyd”

Yn Llanelwedd, bydd Theresa May yn pwysleisio bod ei chytundeb Brexit ar gyfer “pob cornel” o wledydd Prydain, yn enwedig ffermwyr Cymru.

“Trwy gydol y trafodaethau, rydw i wedi sicrhau bod y grymoedd a fydd yn dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei roi yn nwylo’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon,” meddai mewn datganiad o flaen llaw.

“Bydd y cytundeb yn darparu ar gyfer ffermwyr, sy’n haeddu gwell na’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP).

“Ar ôl i ni adael y CAP, fe fyddwn ni’n rhydd i lunio polisi nwydd a fydd yn gweithio i gynhyrchwyr y pedair cenedl, ac rydym yn bwrw ymlaen gyda’r gwaith hwnnw.”

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gynllunio polisi amaethyddol newydd i Gymru, ac fe wnaethon nhw gynnal ymgynghoriad ar eu cynlluniau yn ystod yr haf.