Mae teulu dyn 71 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 24) wedi talu teyrnged iddo.

Cafodd Ronald Triggs ei daro gan VW Transport wrth seiclo yn Colchester Avenue am oddeutu 1.30yp.

Dywed ei deulu eu bod nhw’n “torri eu calonnau”.

“Mae’r teulu oll yn torri eu calonnau ac yn dod i delerau â’r ddamwain drasig sydd wedi mynd â Ronald, gŵr Pamela, tad Neil a thad-cu i’w wyrion.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101.