Mae dyn 90 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ar yr A487 yn ardal Blaenporth ger Aberteifi ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 24).

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion i’r digwyddiad am oddeutu 2.45yp, pan oedd car Honda CRV du yn teithio i gyfeiriad Tanygroes cyn y gwrthdrawiad.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.